Llandudno wedi'i enwi yn un o'r trefi twristiaeth gorau
- Cyhoeddwyd

Mae Llandudno wedi cael ei enwi fel yr unig dref yng Nghymru mewn rhestr o'r 10 lle gorau i fynd ar wyliau yn y DU gan wefan TripAdvisor.
Llundain ddaeth yn gyntaf, gyda Chaeredin yn ail, ond Torquay a Llandudno oedd yr unig drefi glan môr i wneud y rhestr, gyda'r dref yng ngogledd Cymru yn dod yn drydydd ar y rhestr.
Dywedwyd bod apêl Llandudno fel "tref glan môr traddodiadol" wedi bod yn rheswm mawr dros ei lwyddiant.
Yng ngweddill y deg uchaf mae Lerpwl, Belfast, Efrog, Bryste, Leeds a Birmingham.
Tra bod copa'r Gogarth wedi ei ddewis fel un o uchafbwyntiau ymweliad â Llandudno, mae'r tywydd newidiol yn cael sylw gan y wefan.
"Cymrwch siaced," meddai. "Gallai fod yn oer i fyny 'na."
'Naples y Gogledd'
Mae Carol-Lynn Robbins, sy'n rhedeg gwesty yn y dref, yn dweud ei bod wedi gweld cynnydd mewn ymwelwyr o dde Lloegr ac o dramor, yn enwedig o'r Unol Daleithiau, sydd eisiau gweld lle gwyliau mwy traddodiadol.
"Mae ganddo deimlad Fictoraidd hyd heddiw, teimlad lan môr heb fod yn rhy fasnachol," meddai.
Mae llyfrau teithio o oes Fictoria yn disgrifio'r dref fel "Naples y Gogledd" a thyfodd ei boblogrwydd gyda chyrhaeddiad y trenau cyntaf a gwestai newydd yn yr 1850au.
Cafodd ei ddatblygu gan dirfeddianwyr, y teulu Mostyn, ac mae'r teulu yn parhau i arwain datblygiad y dref.