Cyhoeddi manylion Tafwyl
- Published
A hithau'n dathlu ei phen-blwydd yn 10 oed eleni, mae manylion cyntaf Tafwyl 2015 wedi eu cyhoeddi.
Am y tro cyntaf, bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal dros ddau ddiwrnod eleni - dydd Sadwrn a dydd Sul 4-5 Gorffennaf - a hynny diolch i gymorth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.
Gyda 100 diwrnod i fynd tan y digwyddiad, mae'r perfformwyr cyntaf fydd yn cymryd rhan wedi eu cyhoeddi.
Dydd Sadwrn bydd Ywain Gwynedd, Kizzy Crawford, Swnami a Gwenno ymhlith y bandiau yn diddanu ar y brif lwyfan, tra ar y dydd Sul bydd Geraint Jarman, Candelas, HMS Morris a Chowbois Rhos Botwnnog yn denu'r torfeydd.
Ar y llwyfan acwstig bydd artistiaid fel Meic Stevens, Gentle Good, a Gwyneth Glyn yn perfformio.
'Penwythnos gwych'
Wrth edrych ymlaen at yr ŵyl, dywedodd DJ Radio 1 a llysgennad Tafwyl, Huw Stephens: "Nawr bod Tafwyl yn ddigwyddiad dau ddiwrnod yng Nghastell Caerdydd, mae'r ystod o fandiau sydd yn chwarae yn gryfach nag erioed.
"Mae bandiau Cymraeg gwych o bob rhan o'r wlad yn chwarae, o'r hen ffefrynnau i dalent newydd cyffrous.
"Mae'n line up bywiog a chyffrous fydd yn drac sain berffaith i'r penwythnos gwych!"
Mae mynediad i'r ŵyl yn rhad ac am ddim.
18,717 o ymwelwyr
Cafodd Tafwyl ei sefydlu nôl yn 2006 gan Fenter Caerdydd er mwyn ceisio codi ymwybyddiaeth o'r iaith yn y ddinas.
Roedd yn arfer cael ei chynnal yng ngardd tafarn y Mochyn Du ger Gerddi Soffia, ond symudodd i'r castell yn 2012 wrth i faint ac uchelgais y fenter gynyddu.
Tafwyl 2014 oedd y digwyddiad fwyaf llwyddiannus hyd yma gyda 18,717 o ymwelwyr.
Eleni, mae'r trefnwyr yn gobeithio y bydd 25,000 o ymwelwyr yn dod i'r ŵyl dros y deuddydd.
Straeon perthnasol
- Published
- 4 Mawrth 2014
- Published
- 1 Mawrth 2014
- Published
- 12 Chwefror 2014