Dynion yn cyfaddef gwrthdaro ym mhrotest Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae pedwar dyn wedi cyfaddef bod yn rhan o wrthdaro mewn protest yng nghanol Caerdydd yn erbyn y rhyfela yn Gaza.
Cafodd cadeiriau a gwydrau eu taflu wrth i 1,500 o bobl gymryd rhan yn y brotest yn erbyn ymgyrch filwrol Israel yn y dwyrain canol.
Plediodd Nicholas Carter, 31, John James Williams, 32, y ddau o Fargoed, ac Ahsan Malik, 56 o Aberdâr, yn euog i anhrefn treisgar.
Fe wnaeth Daniel Smout, 25 o Groesoswallt, gyfaddef affräe.
Dywedodd yr Erlynydd Huw Evans wrth Lys y Goron Caerdydd y byddai'n honni mai Smout ddechreuodd y digwyddiad ym mis Gorffennaf drwy daflu gwydr yn ardal Mill Lane.
Plediodd pedwar dyn arall yn ddieuog i anhrefn treisgar ac fe fydden nhw'n wynebu achos llys ym mis Mehefin.
Clywodd Smout, Carter, Malik a Williams y bydden nhw'n cael eu dedfrydu bryd hynny.
Ni roddodd nawfed dyn ble ac fe fydd yn ymddangos yn y llys ym mis Mai.