"Gall unrhyw un ddysgu Cymraeg"

arwydd Cymru

Mae Caleb Davis, sy'n wreiddiol o Northampton, yn ddisgybl chweched dosbarth yn Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan. Bu'n son wrth Cymru Fyw am ei brofiadau o addasu i fyw yng Nghymru a dysgu'r Gymraeg.

Argraffiadau cyntaf

Y geiriau cyntaf ddysgais yn Gymraeg oedd 'Tawelwch, os gwelwch yn dda'. Roedd symud o ysgol Saesneg i ysgol lle mae'r mwyafrif o bobl yn siarad Cymraeg yn anodd, i ddweud y gwir.

Dwi'n cofio clywed 'Gweddi'r Arglwydd' mewn gwasanaeth, y sŵn o sgwrsio mewn iaith estron i fi, a llafarganu 'Bore Da, Mrs Jones' bob bore. Ar y dechrau, roeddwn i'n teimlo fel dieithryn.

Image copyright Phillip Perry
Image caption I Caleb, proses araf oedd dod i arfer efo'r Gymraeg ond bellach mae'n teimlo'n angerddol am ei dyfodol

Nawr, mae popeth wedi newid: dw i'n teimlo'n angerddol dros yr iaith Gymraeg, ac yn astudio Cymraeg Lefel A yn yr ysgol. Er gwaethaf dysgu drwy gyfrwng y Saesneg, rwy'n benderfynol o ddysgu iaith y wlad lle dw i'n byw.

Heblaw am 'diolch' a 'shwmae' yma ac acw, roedd defnyddio Cymraeg tu allan i'r ysgol yn galed. Cofiaf fy nhro cyntaf: roeddwn i'n aros wrth safle bws pan ddaeth hen wraig, tocyn bws yn ei llaw.

Roeddwn i wedi ei chlywed yn sgwrsio'n Gymraeg gyda'r cymdogion o'r blaen, felly penderfynais, nawr oedd yr amser.

"Ydych chi'n aros am y bws?" gofynnais. Cwestiwn twp.

"'Wrth gwrs dw i yn, achan!" ymatebodd. Wedyn, tawelwch. Disastr.

Roeddwn i mor nerfus, ac roedd fy acen yn swnio fel mod i wedi dod o'r lleuad yn hytrach na Llambed. Fodd bynnag, roeddwn i wrth fy modd, ac yn awyddus i siarad mwy.

Ers hynny, dw i wedi ceisio defnyddio Cymraeg gyda ffrindiau ac athrawon, a dechrau bob sgwrs gyda'r Gymraeg.

Nawr ac yn y man, bu problemau. Dw i'n cofio pan ychwanegais £50 o gredyd i fy ffôn symudol drwy ddamwain, wrth ddefnyddio'r opsiwn Cymraeg ar beiriant arian.

Image copyright Aeronian
Image caption Mae Caleb wedi syrtyhio mewn cariad â Chymru ers symud i Lambed o Northampton

Ydw i'n Gymro?

Ydw i'n ystyried fy hun yn Gymro? Nac ydw. Os ydy Cymro yn symud i Loegr, ydy e'n ystyried ei hun yn Sais? Annhebygol.

Dw i dal yn dod o Northampton, ac i fod yn onest, roeddwn i'n siomedig pan gollodd Lloegr y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.

Ond yn bersonol, dydw i ddim yn meddwl bod cenedligrwydd yn bwysig. Yn fy nosbarth Cymraeg i, mae dwy ferch o wlad Pwyl sy'n siarad yr iaith, ond fydden nhw ddim yn ystyried eu hunain yn Gymry. Credaf yn gryf bod unrhyw un yn gallu dysgu Cymraeg.

Ar ôl y cyfrifiad 2011, pan welsom leihad yn nifer y siaradwyr Cymraeg dros Gymru, roedd pawb yn gofyn yr un cwestiwn: pam? Roedd yr ystadegau yn edrych yn ofnadwy ar yr wyneb.

Roedd y defnydd o'r iaith wedi disgyn mewn ardaloedd a ystyrid unwaith yn gadarnleoedd i'r Gymraeg: lleoedd fel Ynys Môn, Gwynedd, a Cheredigion. Hyd yn oed yn Sir Gâr, lle'r oedd pawb yn meddwl bod yr iaith yn saff.

Ond os ydych chi'n edrych yn ofalus ar y canlyniadau eto, mae'n stori wahanol. Byddwch chi'n sylwi cynnydd mawr mewn siroedd fel Caerdydd a Phowys. Felly beth sy'n digwydd? Mae'r ateb yn syml: dysgwyr.

Hybu integreiddio

Fel dysgwr, dw i'n teimlo bod dyfodol yr iaith yn dibynnu ar sut mae dysgwyr a siaradwyr iaith gyntaf yn integreiddio.

Pa mor aml ydych chi'n siarad â dysgwyr? Os ydych chi'n gwneud ymdrech i siarad â dysgwr bob dydd, mae mwy o bobl yn mynd i ddysgu'r iaith.

Dyna fy nghyngor: yr un ffordd rydym ni'n gallu achub yr iaith yw trwy siarad â'r dysgwyr.

Gallwch glywed rhagor am brofiadau pobl o Loegr sydd wedi symud i'r Gymru Gymaeg yn Y Cymry Newydd, cyfres BBC Radio Cymru ar yr iplayer

Ewch yma i lawrlwytho Podlediadau BBC Radio Cymru i Ddysgwyr

Cafodd Cymru Fyw farn dysgwraig o'r Unol Daleithiau sydd yn cydweld â barn Caleb. Dywed Junko Salmon o Oklahoma:

"Rwyf yn cytuno'n llwyr â Caleb Davis ynglŷn a'r iaith Gymraeg. A dweud y gwir, dyna'r union beth dw i wedi bod yn ei ddweud wrth bawb; hynny ydy, mae dyfodol y Gymraeg yn dibynnu ar y dysgwyr.

"Dw i wedi dysgu Cymraeg hefyd ac wedi ymweld â Chymru sawl tro a sylwi bod y Cymry Cymraeg ar y cyfan ddim yn barod i siarad Cymraeg â dysgwyr. (Rhaid i mi bwysleisio, fodd bynnag fy mod i wedi cyfarfod nifer o bobl glên a siaradodd Cymraeg efo fi.)

"Mae pwysigrwydd dysgu Cymraeg i bob plentyn yn yr ysgolion Cymru'n cael sylw bob amser, ond mae angen pwysleisio ac annog y Cymry Cymraeg i wneud ymdrech i siarad yr iaith efo'r dysgwyr er mwyn iddi barhau."

Image copyright Thinkstock