Cartref poblogaidd adar Conwy
- Cyhoeddwyd

Aceri o fwd cyn adeiladu'r warchodfa - 1991
Mae yna ugain mlynedd ers i ardal 120 erw gael ei hadfer drws nesa' i ffordd ddeuol yr A55 a'i droi'n warchodfa natur arloesol.
Yn yr 1980au hwyr cafodd twnnel ei adeiladu o dan ffordd newydd o dan afon Conwy. Yna, cafodd yr holl fwd oedd ar ôl ei adael ar lethrau'r afon. Y bwriad oedd ei guddio gyda gwair, cyn mynd ati i benderfynu creu gwarchodfa.
Dwy ddegawd yn ddiweddarach mae'n un o warchodfeydd prysuraf cymdeithas warchod adar yr RSPB yng Nghymru gan ddenu bron i 80,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Mae hefyd yn cyflogi tua 20 o staff ac yn croesawu dros 60 o wirfoddolwyr.
Ffynhonnell y llun, Picasa
Y broses adeiladu'n dechrau - 1995
Ffynhonnell y llun, RSPB
Yr union fan, 20 mlynedd yn ddiweddarach
Ffynhonnell y llun, RSPB
Yr Ardd Bywyd Gwyllt yn 1993
Ffynhonnell y llun, RSPB
Yr ardd yn 2015
Ffynhonnell y llun, Bob Garret
Aderyn y bwn yn nofio yn y warchodfa
Ffynhonnell y llun, Aled Williams
Rhostogion Cwtyn Du
Ffynhonnell y llun, Brian Van Rhin
A'r olygfa heddiw