Gwahardd dyn o wefannau chwilio am gymar
- Cyhoeddwyd

Mae dyn sydd gyda hanes o ymosod yn dreisgar ar ferched wedi cael ei wahardd rhag ymuno gyda gwefannau chwilio am gymar gan farnwr yn Llys y Goron Caerdydd.
Cafodd Karl Crimmins, 29 oed o Fedwas, ei wahardd rhag ymuno â'r gwefannau ar ôl pledio'n euog i ymosod ar ei gariad ym mis Ionawr eleni - bedwar mis ar ôl ei chyfarfod ar wefan gymdeithasol.
Derbyniodd Crimmins ddedfryd o garchar wedi'i ohirio am ymosod ar Tina Evans.
Mae Crimmins eisoes wedi ei gael yn euog yn y gorffennol am droseddau treisgar eraill yn erbyn merched.
Dywedodd y Barnwr William Gaskell: "Nid ydych chi'n ffit i fod ar wefan chwilio am gymar nac mewn unrhyw fath o berthynas.
"Ni fyddai merched eisiau gwneud unrhyw beth â chi phetae nhw'n gwybod eu bod nhw'n cysylltu â dyn gyda hanes o ymosod yn dreisgar ar ferched."
Dywedodd John Lloyd, ar ran yr erlyniad, bod Crimmins wedi dyrnu Ms Evans wedi iddi wneud jôc ar ôl iddo gwyno bod angen trwsio ei gar.
Roedd angen pwythau uwchben ei llygad dde yn dilyn yr ymosodiad.
Perygl o drais
Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Crimmins wedi ymosod ar ferch ym Medwas, sir Caerffili yn 2008, drwy dynnu ei gwallt, ei dyrnu, a gafael arni gerfydd ei gwddf.
Yn 2009 roedd wedi gafael ar ferch arall gerfydd ei gwddf wrth iddi afael ar fabi yng Nghaerffili, ac roedd tri achos arall o ymosod yn 2010.
Yn 2011, roedd Crimmins gerbron y llys unwaith eto wedi iddo wthio cariad arall mewn i gwpwrdd dan grisiau gan gloi'r drws.
Clywodd y llys am ddigwyddiad arall roedd wedi ei rhoi mewn clo pen gyda'i freichiau, gan effeithio ar ei hanadlu ac achosi iddi daflu i fyny.
Dywedodd Edward Mitchared, ar ran yr amddiffyniad, bod y diffynnydd yn ddyn "gyda phroblemau ynglŷn â merched."
Derbyniodd Crimmins gyrffiw gyda'r nos am bedwar mis, ynghyd â gorchymyn ataliol yn ei wahardd rhag defnyddio gwefannau chwilio am gymar.
Dywedodd y Barnwr Gaskell: "Mae angen diogelu'r rheiny all fod mewn perygl oherwydd eich ymddygiad treisgar."