Dewis Antoinette Sandbach fel ymgeisydd etholiadol
- Cyhoeddwyd

Mae'r Aelod Cynulliad Ceidwadol Antoinette Sandbach wedi'i dewis fel ymgeisydd y blaid yn yr etholiad cyffredinol ar gyfer sedd ddiogel yn Swydd Caer.
Cafodd ei dewis nos Fercher i gystadlu am etholaeth Eddisbury, ble'r oedd gan y Ceidwadwyr fwyafrif o dros 13,000 yn 2010.
Mae Ms Sandbach, sy'n AC rhanbarthol yn cynrychioli gogledd Cymru ers 2011, wedi dweud ei bod hi'n bwriadu ymddiswyddo o'r Cynulliad pe bai'n cael ei hethol.
Byddai cynghorydd Llandudno, Janet Howarth, yn cymryd ei sedd i'r Ceidwadwyr ym Mae Caerdydd heb yr angen am is-etholiad.
Mae ei chyd-ACau Ceidwadol Byron Davies a Mark Isherwood eisoes wedi eu dewis fel ymgeiswyr yn yr etholiad cyffredinol ar gyfer etholaethau Gŵyr a Delyn.