Dyn yn y ddalfa ar ôl digwyddiad yn Sir Ddinbych
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cadw dyn yn y ddalfa wedi digwyddiad mewn tŷ yng Nghynwyd ger Corwen dros nos.
Roedd y dyn, oedd wedi cau ei hun yn y tŷ, wedi bygwth swyddogion yr heddlu gyda gwn ac wedi bygwth anafu ei hun hefyd yn ystod y digwyddiad ddechreuodd tua 21:45 nos Fercher.
Fe gafodd gyrwyr a thrigolion eu hannog i osgoi canol y pentref yn ystod yr ymgyrch aeth ymlaen drwy'r nos.
Cafodd heddlu arfog a thrafodwyr yr heddlu eu galw i ddelio gyda'r digwyddiad.
Dywedodd yr Arolygydd Steve Williams, o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae dyn yn ei 20au nawr yn y ddalfa yn dilyn y digwyddiad difrifol yma. Hoffwn ddiolch i drigolion Cynwyd am eu cydweithrediad, ac yn enwedig pennaeth Ysgol Bro Dyfrdwy am gytuno i gau'r ysgol ac i gysylltu â rhieni a staff."