Cofio 80 mlynedd o ddarlledu ym Mangor
- Cyhoeddwyd

Wrth i'r BBC ddathlu 80 mlynedd o ddarlledu ym Mangor, mae apêl yn cael ei lansio i bobl rannu eu hatgofion am y BBC yn yr ardal.
Heddiw mae gwaith y BBC yng ngogledd Cymru, gan gynnwys stiwdio Wrecsam ar gampws Prifysgol Glyndŵr yn ogystal ag ym Mangor, yn golygu bod tua 100 o bobl yn cael eu cyflogi yn yr ardal, yn gweithio yn bennaf ar gynnyrch BBC Cymru ar y teledu, radio ac ar-lein yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Mae tua hanner holl staff BBC Radio Cymru yn gweithio o Fangor ac mae rhaglenni dyddiol fel Post Cyntaf, Rhaglen Dylan Jones a Post Prynhawn yn cael eu cynhyrchu a'u cyflwyno oddi yno.
Mae rhaglenni ffeithiol hefyd yn cael eu cynhyrchu ym Mangor ar gyfer S4C a theledu BBC Cymru yn Saesneg, ac mae uned Gwasanaethau Cynulleidfaoedd y BBC ar gyfer Cymru yn seiliedig yno - yn trin adborth y gynulleidfa o Gymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar gyfer holl wasanaethau'r BBC.
Dim ond ychydig o staff cynhyrchu rhaglenni oedd yn cael eu cyflogi pan agorodd BBC Bangor gyntaf yn 1935, gan gyfrannu rhaglenni yn wreiddiol i'r unig drosglwyddydd radio ar gyfer Cymru, cyn i ail drosglwyddydd ar Ynys Môn gael ei lansio yn ddiweddarach yn 1937.
Yr Ail Ryfel Byd
Fe ddaeth yr Ail Ryfel Byd, ac ym mis Hydref 1940 cafodd brif Adran Adloniant y BBC, ac enwogion fel Tommy Handley, Arthur Askey a Charlie Chester eu symud i Fangor gyda'r dasg o ddarparu rhaglenni ysgafn i filiynau o wrandawyr radio ar draws y DU, pan benderfynwyd bod y stiwdios yn Llundain, ac yn ddiweddarach Bryste, dan ormod o risg o gael eu bomio.
Fe wnaethon nhw aros ym Mangor tan fis Awst 1943.
Wrth i'r rhyfel ddod i ben fe ddychwelodd y BBC ym Mangor at ei dasg wreiddiol o ddarparu rhaglenni ar gyfer gwrandawyr ledled Cymru.
Dros y blynyddoedd, mae'r stiwdio wedi bod yn gartref i rai o leisiau mwyaf blaenllaw y wlad a rhai o ddarlledwyr gorau BBC Cymru, gan gynnwys y sylfaenydd gwreiddiol Sam Jones, yn ogystal ag enwau adnabyddus eraill fel R Alun Evans, Bedwyr Lewis Jones, Gwilym Owen, Meredydd Evans, a llawer mwy.
'Lluniau diddorol iawn'
I nodi'r garreg filltir, mae Bethan Williams, Pennaeth BBC Cymru yng Ngogledd Cymru, yn lansio'r apêl mewn cyngerdd gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ym Mhrifysgol Bangor.
"Rydym eisoes wedi gwneud rhywfaint o waith ymchwil mewnol a dod o hyd i rai lluniau diddorol iawn," meddai Bethan, "ond byddem yn wir yn hoffi cael gwybod mwy am rai o'r dyddiadau a digwyddiadau allweddol, yn enwedig agoriad swyddogol stiwdio wreiddiol Bryn Meirion ym Mangor ym 1935.
"Os oes gan unrhyw un unrhyw luniau y gallant rannu, neu atgofion am gymryd rhan mewn rhaglenni dros y blynyddoedd, byddem yn ddiolchgar pe gallent gysylltu â ni.
"Rydyn ni'n falch iawn y byddwn ni'n gweithio gydag Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ym Mangor i gasglu atgofion pobl a hen bethau, ac mae cynlluniau ar droed ar gyfer diwrnodau arbennig yn ddiweddarach yn y flwyddyn pan fydd pobl yn gallu ymweld â'r stiwdios neu'r amgueddfa gydag unrhyw luniau neu bethau cofiadwy eraill y gallant gynnig neu y gallan ni eu copïo.
"Bydd hwn hefyd yn gyfle i gofnodi straeon ac atgofion personol, fel bod yna etifeddiaeth barhaol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Mae gan Cymru Fyw ddetholiad o hen ffotograffau o flynyddoedd cynnar y BBC.