Myfyrwyr: '22% yn ystyried swydd yn y diwydiant rhyw'
- Cyhoeddwyd

Mae bron i chwarter myfyrwyr wedi ystyried gweithio yn y diwydiant rhyw, yn ôl gwaith ymchwil gan Brifysgol Abertawe.
Fe wnaeth mwy na 6,750 o fyfyrwyr ledled y DU gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein.
Mae'r arolwg yn honni bod bron i 5% o'r rheiny wedi gweithio yn y diwydiant rhyw, ac mai dynion oedd fwya' tebygol o weithio yn y maes.
Roedd y gwaith yn cynnwys stripio, galwadau ffôn erotig, dawnsio erotig a phuteinio.
Roedd hefyd yn cynnwys gwaith gwê-gamera a modelu heb ddillad.
Fe gafodd Prosiect Gwaith Rhyw Myfyrwyr Canolfan Cyfiawnder Droseddol a Chriminoleg Abertawe ei ariannu gan y Gronfa Loteri Fawr.
'Wastad yn wyliadwrus'
Bu gohebydd Newsbeat, Steffan Powell yn sgwrsio gyda Jenny (nid ei henw cywir), 22 oed, sydd wedi bod yn rhan o'r diwydiant ers pedair mlynedd.
Y tro cyntaf iddi gael ei thalu am ryw, roedd hi'n 18 oed. Roedd hi mewn car gyda dieithryn, a chafodd £50.
Tua blwyddyn wedi hynny, yn fyfyrwraig mewn prifysgol, fe benderfynodd "gymryd y peth o ddifri" ac ymuno â gwefan arbennig.
"Ro'n i jysd yn meddwl nad oedd gen i ddim byd i'w golli - os ydw i'n teimlo'n anhapus, na'i ddim cario 'mlaen - ond do'n i ddim, ac fe ges i flas ar fyw yn dda," meddai.
"Dw i wedi ennill hyd at £2,500 mewn wythnos. Ond fel arfer ro'n i'n cael tua £1,000.
"Roedd fy rhent i mor ddrud a do'n i ddim eisiau gofyn i fy rhieni am bres."
Er i Jenny ddweud ei bod hi'n "byw yn dda", roedd hi hefyd yn dweud ei bod hi'n ymwybodol o risgiau cysgu gyda phobl ddiarth.
"Does gen i ddim ofn dynion, ond dw i ddim yn ymddiried ynddyn nhw. Dw i wastad yn wyliadwrus."
Mae'r arolwg yn awgrymu bod:
- Bron i ddau draean wedi eu hysgogi i ennill arian er mwyn mwynhau ffordd o fyw, ond roedd 45% eisiau osgoi dyled.
- Roedd 59% yn credu y bydden nhw'n mwynhau'r gwaith, 54% yn "chwilfrydig", 45% eisiau gweithio o fewn y diwydiant a 44% wedi eu hysgogi gan bleser rhywiol.
- O'r rheiny weithiodd yn y diwydiant, roedd mwy na hanner am lai na chwe mis neu lai na phum awr yr wythnos.
- O'r rheiny fu'n gweithio yn y diwydiant, roedd 76% yn dweud eu bod nhw'n teimlo'n ddiogel "drwy'r amser" neu "y rhan fwyaf o'r amser". Fodd bynnag, roedd 49% ofn cael eu hanafu.
'Canfyddiad arwyddocaol'
Yn ôl Dr Tracey Sagar - oedd yn gyfrifol am arwain yr arolwg - roedd stereoteipio yn broblem, ac roedd canfod mai dynion oedd fwyaf tebygol o weithio yn y diwydiant "yn ganfyddiad arwyddocaol".
O'r rheiny atebodd yr arolwg, dim ond traean ohonyn nhw oedd yn ddynion. O'r dynion hynny, roedd 5% yn dweud eu bod nhw'n gweithio yn y diwydiant rhyw, o'i gymharu â bron i 3.5% o ferched.
"Mae gwaith rhyw yn rhywbeth sy'n cael ei gysylltu â rhywbeth i ferched, gan fwyaf. Mae hyn yn anghywir, ac yn golygu y gallai dynion syrthio drwy'r rhwyd gan nad ydyn nhw'n cael eu cysylltu â'r mater," meddai Dr Sagar.
Ychwanegodd Dr Sagar: "Nawr, mae gennym ni dystiolaeth gref fod myfyrwyr yn gweithio yn y diwydiant rhyw ledled y DU.
"Mae'r rhan fwyaf o'r myfyrwyr hyn yn gadw'r gwaith yn gyfrinachol oherwydd stigma ac ofn beirniadaeth teulu a ffrindiau. Mae'n rhaid i ni hefyd gofio nad yw pawb sy'n gweithio yn y diwydiant yn teimlo'n ddiogel."
Dywedodd ei bod hi'n hanfodol i brifysgolion feithrin dealltwriaeth well o'r materion sy'n wynebu myfyrwyr sy'n gweithio yn y diwydiant.
Fe gychwynnodd y gwaith ymchwil yng Nghymru ac mae bron i hanner y myfyrwyr gymrodd ran yn astudio mewn colegau yng Nghymru.