Cyffuriau ar gwch: Cyhuddo tri arall
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd y Makayabella ei chanfod gan yr awdurdodau oddi ar arfordir Iwerddon
Mae tri pherson arall wedi eu cyhuddo wedi i swyddogion ddod o hyd i dunnell o gocên ar gwch oddi ar arfordir Iwerddon ym mis Medi 2014.
Mae pedwar dyn eisoes wedi eu cyhuddo o smyglo cyffuriau wedi'r digwyddiad, pan gafodd cwch ei gymryd o farina Pwllheli fel rhan o'r ymchwiliad.
Yn ôl y lluoedd diogelwch, nod y cynllwyn oedd glanio llwyth o gyffuriau ar arfordir gogledd Cymru.
Mae David Webster, 44, Philip McElhone, 29, a Dawne Powell, 56, oll o orllewin Swydd Efrog, wedi eu cyhuddo o gynllwynio i fewnforio cocên.
Fe fydd y tri'n ymddangos yn Llys y Goron Leeds ar Ebrill 8.
Mae Mrs Powell hefyd wedi ei chyhuddo o dwyll ariannol.
Fe ddaeth y cyffuriau o Venezuela, ac mae'n debyg y bydden nhw werth oddeutu £150m ar y stryd,
Straeon perthnasol
- 26 Medi 2014