Yr Wyddfa: Olion cerdd yn dal yno

  • Cyhoeddwyd
olion cerdd

Mae 'na siom ar lethrau'r Wyddfa fod olion cerdd gafodd ei hysgrifennu ar graig saith mis yn ôl yn dal yno.

Roedd gwaith y bardd Gillian Clarke wedi'i beintio ger Llwybr Watkin fel rhan o gynhyrchiad gan National Theatre Wales.

Methiant oedd yr ymdrech i lanhau'r ysgrifen.

A dyw gwynt a glaw y gaea' heb olchi'r geiriau oddi yno chwaith.

Er bod hi'n anodd darllen y geiriau bellach mae'r effaith yn dal yn amlwg iawn, a chyda'r tymor ymwelwyr ar fin dechrau, mae yna bryderon.

Roedd cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri wedi ei synnu gan y lluniau o'r graig heddiw.

'Dim hawl ymyrryd'

Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn dweud nad mater cynllunio ydi hwn ac felly does ganddyn nhw ddim hawl ymyrryd.

Yr Ymddiriedoaleth Genedlaethol ydi perchennog y tir ond doedd neb ar gael o'r mudiad i wneud sylw.

Dywedodd National Theatre Wales eu bod nhw wedi gadael llonydd i'r graig dros y gaeaf i roi siawns i'r cen dyfu nol ar y graig.

Mi fuo nhw yno'r wythnos ddiwethaf efo arbenigwyr i archwilio'r safle.

Mae'r cwmni'n dweud y bydd yn gwneud bopeth o fewn i allu i ddychwelyd y graig i'w gyflwr naturiol.

Mae'n ymddangos y bydd y dasg honno'n un sy'n mynd i gymryd cryn amser.