Cam-drin ceffylau ar lefel 'difrifol' yn ôl yr RSPCA

  • Cyhoeddwyd
CeffylFfynhonnell y llun, RSPCA
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r galwadau i'r RSPCA am geffylau sydd wedi eu cam-drin yn 'straen, meddai'r elusen

Mae'r nifer o geffylau, merlod ac asynnod sy'n cael eu hanwybyddu a'u cam-drin yng Nghymru ar bwynt "difrifol", yn ôl yr RSPCA.

Mae'r elusen wedi lansio apêl brys i ddarganfod cartrefi ar gyfer yn anifeiliaid ar ol iddo ddweud nad oedd dim lle yn ei chanolfannau achub bellach.

Ar hyn o bryd, mae tua 640 o geffylau yng ngofal yr RSPCA yng Nghymru a Lloegr.

Deliodd yr elusen â 2.166 o gwynion am yr anifeiliaid yng Nghymru yn unig y llynedd.

Daeth y rhan fwyaf o'r rhain o Abertawe (289), Caerdydd (229) a Chaerfyrddin (203).

Dywedodd yr RSPCA mai'r rheswm pennaf am i geffylau gael eu cymryd i mewn i'w gofal oedd anafiadau, llwgu, briwiau heb eu trin a pherchnogion anghyfrifol.

Dywedodd Steve Carter o RSPCA Cymru: "Mae'r sefyllfa yng Nghymru yn parhau yn ddifrifol ac mae'r niferoedd o geffylau sy'n cael eu delio â gan swyddogion yr RSPCA sydd wedi cael eu hanwybyddu a'u cam-drin yn peri pryder.

"Mae'r nifer o alwadau rydyn ni yn ei dderbyn yn straen ond mae'r gwaith mae'r RSPCA yn ei wneud yn dangos diolch i lawer o waith caled."

Ffynhonnell y llun, RSPCA
Disgrifiad o’r llun,
Mae asynnod yn cael eu cymryd i ofal yr elusen, yn aml oherwydd perchnogion anghyfrifol