Dilyn Cymru

Bulgaria

Mae pêl-droedwyr Cymru yn chwarae eu gêm bwysicaf ers deuddeg mlynedd yn erbyn Israel ar 28 Mawrth wrth iddyn nhw geisio cyrraedd rowndiau terfynol Pencampwriaethau Ewrop, Ffrainc 2016.

Boddi yn ymyl y lan fu hanes Cymru ers bron i bedwar degawd, ac ymhlith y cefnogwyr sydd wedi gweld ei obeithion yn cael eu chwalu fwy nag unwaith ydi Darren Jones o Porth yn y Rhondda. Mae'n rhannu ei brofiadau o'r siom a'r torcalon o ddilyn Cymru i bob cwr o'r byd:

Diddordeb cynnar

I fod yn onest, dwi'm yn cofio y tro cynta i mi weld Cymru yn chwarae!

Ro'n i' n blentyn pan es i gyda fy nhad i gemau'r "Gwledydd Cartre" yn y 70au. Ond doeddwn i ddim wedi ymddiddori yn llawn mewn pêl-droed ar y pryd.

Yn fy arddegau, dechreuais fynd yn rheolaidd i Barc Ninian felly ges i gymysgedd o frwydrau cyson Caerdydd yng ngwaelodion y tabl ac ymdrechion anlwcus Cymru i geisio cyrraedd rowndiau terfynol cystadlaethau o bwys.

Mor agos, ond mor bell

Mae 'na rai cefnogwyr sy'n cofio'r siom o golli yn erbyn Alban yn Anfield yn 1977 a cholli'r cyfle i fynd i Gwpan y Byd yr Ariannin.

Ond i fi y profiad cynta ges i o hynny oedd gyda'r digwyddiadau ar y Vetch yn 1981 pan ddiffoddodd y llifoleuadau a Chymru yn colli'r cyfle, ar gyfanswm goliau, i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Sbaen.

Image caption Yn arena Amsterdam i weld Cymru yn herio yr Iseldiroedd

Trwch blewyn oedd rhwng Cymru a chyrraedd Ewro '84 yn Ffrainc hefyd. Roedd Cymru wedi chwarae eu gemau i gyd ac yn gobeithio am gêm gyfartal rhwng Iwgoslafia a Bwlgaria.

Ar ôl 90 munud roedd hi'n 2-2 ond, yn yr eiliadau olaf sgoriodd Iwgoslafia gôl fuddugol gan sicrhau bod ganddyn nhw bwynt yn fwy na Chymru.

Athrylith Mark Hughes ddim yn ddigon

Teithiais i'r Cae Ras i weld Mark Hughes yn sgorio gôl arbennig ar ein ffordd i fuddugoliaeth yn erbyn Sbaen 3-1, ac roedd hyder yn uchel yn gynnar yn yr ymgyrch ar gyfer Cwpan y Byd Mecsico '86.

Image caption Gôl enwog Mark Hughes yn erbyn Sbaen ar y Cae Ras, Ebrill 1985

Roedd Cymru yn yr un grŵp a'r Alban ac roedd yn rhaid eu curo er mwyn ennill lle yn y gemau ail-gyfle.

Roedd y gêm dyngedfennol honno ym Mharc Ninian ac mi welais i Hughes yn sgorio eto. Tybed a fyddwn i yn bwcio taith i Fecsico? Ond, yn ddadleuol, penderfynodd y dyfarnwr roi cic o'r smotyn i'r ymwelwyr wyth munud cyn y chwiban olaf. Fel yn 1978, yr Albanwyr fyddai'n teithio i Dde America.

Chwarae ar gae rygbi!

Roeddwn yn y coleg yn Coventry yn 1989 pan chwaraeodd Cymru eu gêm gyntaf ym Mharc yr Arfau. Bu'n rhaid i mi wrando ar y radio ar y gêm ddi-sgôr yn erbyn Gorllewin yr Almaen yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd.

Doedd 'na ddim taith i Gwpan y Byd yn yr Eidal i'r garfan nac i ni fel cefnogwyr.

Ond rydw i wedi gweld pob gêm ryngwladol yng Nghaerdydd ers y noson honno- bron 26 o flynyddoedd.

Daeth yr Almaenwyr yn ôl i Gaerdydd yn 1991 fel pencampwyr y byd ac enillodd Cymru o gôl i ddim diolch i ergyd Ian Rush. Ond yr ymwelwyr enillodd y grŵp ac ennill eu lle yn Euro '92, Sweden.

Image caption Darren tu allan i Arena Phillip II yn Skopje, Stadiwm Cenedlaethol Macedonia

Siom a thristwch

Roedd 'na ddiweddglo llawn cyffro i ymgyrch Cwpan y Byd 1994. Roedd yn rhaid i dîm Terry Yorath guro Rwmania yng ngêm ola'r grŵp er mwyn bwcio taith i'r Unol Daleithiau.

Ar ôl i gôl o bellter gan Georges Hagi roi'r ymwelwyr ar y blaen, daeth Cymru yn ôl i'r gêm ac mi sgoriodd Dean Saunders i'w gwneud hi'n gyfartal.

Cododd gobeithion Cymru i'r entrychion wrth i'r crysau coch ymosod yn barhaus ac aeth yr eisteddleoedd yn wallgo' pan enillon ni gic o'r smotyn.

Roeddwn i mewn cyfyng gyngor, fyddai'n rhaid i mi werthu fy nghar er mwyn talu am drip i'r 'States'?

Pwy well i'n rhoi ni ar ein ffordd i Gwpan y Byd na Mr Dibynadwy, Paul Bodin. Roedd e wedi llwyddo gyda 27 allan o 27 o'i giciau blaenorol... ond tarodd rhif 28 yn erbyn y trawst!

Suddodd calonau y Cymry a manteisiodd Rwmania ar hynny a sgorio'r gôl fuddugol. Fyddai ddim rhaid i mi sgwennu hysbyseb 'car ar werth' wedi'r cwbl.

Yn eironig sgoriodd Bodin ei 29ain cic o'r smotyn i Swindon yr wythnos ganlynol!

Oedd, roedd hi'n siom fawr ond cafodd popeth ei roi mewn cyd-destun pan glywsom wrth adael y stadiwm bod un o gefnogwyr Cymru, John Hill, wedi ei ladd yn eisteddle'r gogledd pan gafodd flare ei daflu i'w gyfeiriad.

Image caption Y gic gan Paul Bodin a dorrodd galonnau cefnogwyr Cymru

Cyfloedd Prin

Ers dyddiau Terry Yorath prin ydi'r cyfloedd wedi bod i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol unrhyw dwrnament heblaw am Ewro 2004. Dan arweiniad Mark Hughes collodd y crysau coch i Rwsia, dros ddau gymal, yn y gemau ailgyfle.

Roedd hyny yn dilyn cyfnod chwerthinllyd Bobby Gould a chyn cyfnod John Toshack wrth y llyw.

Er bod record John Toshack, ar bapur, yn edrych yn barchus doedd ei dactegau ddim yn boblogaidd a chadwodd miloedd o gefnogwyr draw. Hyd yn oed i mi fel cefnogwr pybyr, roedd rhai o'r gemau dan Toshack yn arteithiol o ddiflas.

Ond ynghanol y diflastod, rhoddodd Tosh gyfle i dalent ifanc 16 oed o'r enw Gareth Bale.

Image caption Darren yn cefnogi Cymru yn Y Swistir

Galar a gwawr newydd

Cymerodd Gary Speed yr awenau yn 2010, ac o fewn 10 gêm roedd pethau wedi dechrau gwella yn aruthrol. Roedd y pêl-droed yn anturus, y chwaraewyr yn hyderus, ac roedd y cefnogwyr yn dechrau credu yn y tîm unwaith eto. Ac yna daeth y newyddion ofnadwy - bod Gary Speed wedi lladd ei hun.

Does dim dadlau ei bod hi wedi bod yn gyfnod anodd i Chris Coleman ond o'r diwedd mae'r hyder yn ôl ar ôl dechrau digon sigledig yn Andorra yng ngêm agoriadol rowndiau rhagbrofol Ewro 2016.

Bydd y daith i Israel yn un hollbwysig, a byddaf yn mynd yno i gefnogi- dyma trip rhif 39! Gyda chanlyniad da yn Hifa ac yn erbyn Gwlad Belg yng Nghaerdydd ym mis Mehefin... pwy a ŵyr?

Dydi Ffrainc ddim yn bell, felly o leia' sydd ddim yn rhaid i mi ystyried gwerthu fy nghar er mwyn cyrraedd yno i gefnogi Cymru!

Dilynwch y gêm yn llawn ar lif byw Cymru Fyw o 16:30 ymlaen. Mae sylwebaeth fyw i'w chael hefyd ar BBC Radio Cymru

Image caption Y Galactico Gareth Bale, sy'n rhan allweddol o obeithion Cymru o gyrraedd Ffrainc y flwyddyn nesaf