Camymddwyn: Diswyddo sarjant
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gwent wedi diswyddo sarjant am gamymddwyn difrifol, yn cynnwys ymddygiad rhywiol anaddas tuag at fenywod yn y ddalfa a chyd-weithwyr.
Fe fydd Richard Evans, 46 oed, yn gadael ei swydd wedi gwrandawiad Safonau Proffesiynol.
Roedd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn ymchwilio i'r mater, ond fe benderfynwyd y dylid ymchwilio yn lleol.
Fe gafodd y gwrandawiad ei gynnal ar Ionawr 30, gan dderbyn 41 o honiadau - 32 o'r rheiny yn rhai o gamymddwyn difrifol.
Yn Llys y Goron Caerdydd fis Awst y llynedd, fe gafodd Mr Evans ei ganfod yn ddi-euog o dri achos o ymosod yn rhywiol a dau achos o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
Fe ddywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Craig Guilford: "Mae digwyddiadau ac ymchwiliadau fel hyn yn digwydd yn anaml, ond mae hyd yn oed un yn un yn ormod.
"Os oes gan unrhyw un bryderon am ymddygiad staff neu swyddog yn Heddlu Gwent, yna dw i'n eu hannog nhw i gysylltu â'r Adran Safonau Proffesiynol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Awst 2014