Sammy Almahri yn Llys y Goron

  • Cyhoeddwyd
Nadine Aburas a Sammy Almahri
Disgrifiad o’r llun,
Mae Sammy Almahri yn cael ei amau o lofruddio Nadine Aburas ym mae Caerdydd

Mae dyn sy'n cael ei amau o ladd Nadine Aburas mewn gwesty yng Nghaerdydd Nos Galan y llynedd, wedi ymddangos o flaen Llys y Goron yn y brifddinas.

Fe gafodd Sammy Almahri - sy'n dod o'r Unol Daleithiau - ei estraddodi o ddwyrain Affrica.

Cadarnhaodd Almahri ei enw yn y gwrandawiad byr.

Fe gafodd ei gadw yn y ddalfa tan ei wrandawiad nesaf ar 5 Mehefin.