Twitter: Beirniadu polisi hysbysebu iaith Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
TwitterFfynhonnell y llun, PA

Mae polisi hysbysebu gwefan gymdeithasol Twitter wedi cael ei feirniadu gan ymgyrchwyr, gan nad yw'n caniatau hysbysebu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae rhaglen Taro'r Post ar BBC Radio Cymru ar ddeall nad yw polisi hysbysebu'r cwmni yn galluogi i fusnesau a sefydliadau cyhoeddus ddefnyddio gwasanaethau hysbysebu'r cwmni yn Gymraeg.

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg ei bod yn ymchwilio i gwyn am TwitterAds.

Mae Twitter wedi dweud y bydd dewisiadau ieithyddol gwahanol ar gael mewn gwledydd dros amser, ond bod angen i ddefnyddwyr fod yn amyneddgar yn y cyfamser.

'Od iawn'

Ar Taro'r Post, dywedodd golygydd gwefan Ffrwti, Rhodri ap Dyfrig bod "mwy a mwy o fusnesau yn trio defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i hysbysebu, a mae Facebook eisoes wedi agor fyny eu platfform nhw i hysbysebu, a mae modd gwneud hynny yn yr iaith Gymraeg".

"Mae Twitter wedi dilyn nhw yn gwneud hynny, ond o drio cael hysbysebion arno yn Gymraeg...ffindio allan bod yr iaith Gymraeg yn inelligible a ddim yn cael ei gefnogi gan y platfform, er bod nhw'n caniatau hysbysebion o fewn y DU."

Ychwanegodd bod amcan diweddar yn awgrymu bod hyd at 50,000 o bobl yn defnyddio Twitter yn y Gymraeg.

O ystyried hynny, dywedodd bod "rhywbeth od iawn bod cwmni yn atal eu defnyddwyr rhag hysbysebu i farchnata yn benodol".

'Anodd iawn'

Un cwmni sydd wedi llwyddo i hysbysebu yn y Gymraeg ar Twitter yw S4C, ond maen debyg bod hynny wedi digwydd o ganlyniad i gytundeb penodol rhwng y ddau sefydliad.

Dywedodd Rhodri ap Dyfrig: "Nid pawb fydd yn gallu gwneud hynny - dydi unigolyn neu fusnes bach ddim yn gallu creu'r perthynas yna gyda Twitter, ac felly mae'n anodd iawn wedyn."

Ychwanegodd: "Mae na anghyfartaledd yn y system ei hun, sy'n deillio o wreiddiau'r cwmniau yma, ond maen nhw'n anfodlon i 'neud newidiadau.

"Ond mae angen i ni godi'n llais, a llais y defnyddwyr sy'n bwysig, yn sicr pan mae cwmni'n methu allan ar arian potensial."

Cwynion

Mewn datganiad, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg: "Gall Comisiynydd y Gymraeg gadarnhau ei bod wedi derbyn cwyn mis diwethaf ynghylch "TwitterAds". Gall hefyd gadarnhau ei bod wedi derbyn cwyn am "Google Adsense"

"Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cysylltu â'r ddau gorff i ddwyn eu sylw at y cwynion ac yn disgwyl ymateb."

Er hynny, ychwanegodd: "Nid yw'r naill gorff na'r llall yn ddarostyngedig i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 nac ychwaith Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 am eu bod wedi eu hymgorffori tu allan i'r Deyrnas Gyfunol."