Dim trydaneiddio yng ngogledd Cymru: 'Cost o £260m'

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf Bangor
Disgrifiad o’r llun,
Byddai gorsafoedd, yn cynnwys Bangor, yn elwa o'r gwaith uwchraddio

Mae'r Gweinidog Trafnidiaeth wedi dweud y byddai methu â thrydaneiddio'r prif reilffordd ar hyd gogledd Cymru yn costio £260m i economi Cymru.

Dywedodd Edwina Hart y byddai hefyd yn costio £210m i economi Lloegr pe bai'r cynllun i uwchraddio'r rheilffordd rhwng Crewe a Chaer yn dod i ben wrth y ffin.

Bydd y ddadl o blaid gogledd Cymru yn cael ei chyflwyno i Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU.

Daw hyn wedi i adroddiad gan dasglu trafnidiaeth gogledd Cymru alw am wneud gwelliannau i Bont Borth a ffyrdd yr A494 a'r A55.

Cafodd y syniad o foderneiddio'r rheilffordd rhwng Caergybi a Chaer ei nodi yng nghynllun 30 mlynedd Network Rail ar gyfer Cymru, gafodd ei gyhoeddi yn gynharach yn y mis, ond dywedodd yr arolwg y byddai trydaneiddio yn cynnig "gwerth gwael am arian".

Mae'r rheilffordd rhwng Llundain a Crewe eisoes wedi'i thrydaneiddio, a dywedodd y cynllun y gallai trydaneiddio rhwng Crewe a Chaer gynnig "gwerth da am arian".