Ulster 36-17 Gleision
- Published
Aeth Ulster ar y blaen wedi dim ond tri munud, diolch i gais gan Craig Gilroy, a llwyddodd Ruan Pienaar gyda'r trosiad.
Nid oedd dechrau perffaith Ulster i barhau'n hir, wrth i Nick Williams dderbyn cerdyn melyn a chael ei anfon i'r gell cosb.
Gydag ychydig dros 10 munud o'r gêm wedi'i chwarae, gadawodd Rhys Patchell y cae gydag anaf i'w ben.
Ac aeth pethau o ddrwg i waeth i'r Gleision wrth i Pienaar ychwanegu tri phwynt arall i gyfanswm Ulster, cyn i Louis Ludik groesi am ail gais y tîm cartref.
Llwyddodd Pienaar gyda chic gosb arall, cyn diwedd yr hanner cyntaf, i wneud y sgôr yn 18-0 ar yr egwyl.
A chychwynnodd yr ail hanner, yn union yr un fodd, wrth i Pienaar ychwanegu tri phwynt arall i gyfanswm Ulster.
Ond, o'r diwedd, llwyddodd y Gleision i sgorio eu pwyntiau cyntaf, gyda chic gosb gan Gareth Anscombe a chais gan Tom Isaacs.
Sgoriodd Alex Cuthbert ail gais yr ymwelwyr, cyn i Pienaar ychwanegu tri phwynt arall i gyfanswm Ulster.
Pum munud cyn diwedd y gêm llwyddodd Ludik gyda thrydydd cais i'r tîm cartref, cyn i Paul Marshall ychwanegu'r pedwerydd, gan sicrhau buddugoliaeth Ulster.