Accrington Stanley 0-2 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Cafwyd hanner cyntaf digon di-fflach, gyda'r un o'r ddau dîm yn llwyddo i ganfod cefn y rhwyd.
A digon di-nod oedd yr ail hanner hefyd, tan i Aaron O'Connor sgorio i roi'r ymwelwyr ar y blaen.
Ym munud olaf y gêm sgoriodd Shaun Jeffers ail gôl i Gasnewydd, gan sicrhau buddugoliaeth.