Israel v Cymru: Y gêm fwyaf ers 12 mlynedd?

  • Cyhoeddwyd
Gareth Bale
Disgrifiad o’r llun,
Fydd y dyn yma yn gwenu ar ddiwedd y gêm nos Sadwrn?

Ar ddydd Sadwrn y gêm yn Haifa, rhaid bodloni gyda chinio oer. Dyw'r Iddewon ddim yn coginio ar y Sabath yma yn Israel.

Fu'n rhaid i dîm Pêl-droed Cymru ymarfer cyn iddi nosi ar y nos Wener hefyd, er mwyn cyd fynd â'r arferion. Mi fydd y gêm fawr i'w chwarae wedi iddi nosi nos Sadwrn, a'r Sabath ar ben.

Mae gan bob cenedl eu harferion unigryw. Ond pan fydd y chwiban yn chwythu, fe fydd 11 dyn yn wynebu 11 dyn, a'r holl hanes yn diflannu.

Ydyn, mae Cymru wedi teithio y tu allan i Ewrop ar gyfer y gêm ragbrofol hon, gyda'u golygon ar gyrraedd Ewro 2016 yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.

Ar ôl ennill tair mas o dair, Israel sydd ar frig Grŵp B ar hyn o bryd. Mae Cymru bwynt ar ei hôl hi yn yr ail safle, wedi ennill dwy a sicrhau dwy gêm gyfartal.

Israel v Cymru

Stadiwm Sammy Ofer, Haifa, 28 Mawrth, 2015, 17:00

Gêm fwyaf ers 12 mlynedd

Dyw'r naill dîm na'r llall erioed 'di cyrraedd rowndiau terfynol Cystadleuaeth Ewrop, ond mae'r ddau wedi cael dechrau da, a'r gobeithion yn uchel o gofio bod 'na le i 24 tîm yn Ffrainc, yn hytrach na'r 16 arferol.

Dyma'r gêm fwyaf ers 12 mlynedd yn ôl y rheolwr Chris Coleman. Rwsia oedd y gwrthwynebwyr bryd hynny, a cholli oedd hanes Cymru a chwalwyd y gobeithion o gyrraedd Ewro 2004.

Mae 'na fwy o hyder y tro yma, a hynny yn rhannol oherwydd un dyn; Gareth Bale.

Er bod sêr Uwch Gynghrair fel Aaron Ramsay a Joe Allen yma hefyd, Bale sy'n denu'r sylw. Yng nghyfarfod y wasg, roedd holl gwestiynau'r newyddiadurwyr o Israel yn cyfeirio at chwaraewr dryta'r byd.

Mae'r gŵr 25 oed wedi derbyn beirniadaeth hallt am safon ei chwarae yn ddiweddar dros Real Madrid. Mae e'n hunanol ac yn ddiog meddai'r wasg yn Sbaen.

Serch hynny, mae'n ymddangos nad yw'r pwysau yma yn cael unrhyw effaith ar ei ysbryd.

Unrhyw beth yn bosibl

Yn Stadiwm Sammy Ofer neithiwr, roedd Bale yn amlwg iawn yn mwynhau yng nghanol ei ffrindiau a'i gyd-chwaraewyr o Gymru. Yma, mae e'n rhydd o sylw Sbaen. Yma, mae e'n gartrefol, ac mae hynny yn newyddion ardderchog i Gymru.

Mi fyddai buddugoliaeth yn codi Cymru i frig eu grŵp, hynny union hanner ffordd drwy'r ymgyrch ragbrofol.

Mae Israel yn dîm da, ac mae'n siŵr y byddai pwynt yn Haifa yn ddigon derbyniol. Ond pan fo Bale ar dân, mae unrhyw beth yn bosibl.