Stephen Crabb: Y Ceidwadwyr yw 'gwir blaid Cymru'

  • Cyhoeddwyd
Stephen Crabb
Disgrifiad o’r llun,
Bydd Stephen Crabb yn annerch y digwyddiad ddydd Llun

Mae Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb yn galw ar i bleidleiswyr sicrhau mai 2015 yw'r flwyddyn pan mae Cymru yn "rhoi'r gorau i'r Blaid Lafur".

Fe lansiodd ymgyrch etholiadol y Ceidwadwyr yn y Gwŷr, un o'r etholaethau y mae'r blaid yn ei thargedu ar 7 Mai, gydag ymosodiad ar Ed Miliband.

Dywedodd y byddai arweinydd y Blaid Lafur angen "help gan Alex Salmond" i sicrhau ei le yn Stryd Downing, a chyhuddodd ef o fod yn fwy cartrefol yn ardaloedd moethus Llundain nac yng nghymoedd de Cymru.

Mae'r Ceidwadwyr yn honni mai nhw yw "gwir blaid Cymru" gan ddweud bod ganddyn nhw record dda o gyflawni dan y glymblaid, yn enwedig ar yr economi.

Y llywodraeth ddiwethaf oedd wedi llwyddo i wneud cynnydd ar brosiectau oedd wedi cael eu trafod ers blynyddoedd, fel y cynllun i drydaneiddio'r rheilffyrdd yn ne Cymru, meddai Mr Crabb.