Carwyn Jones: Llafur yn cynnig 'gobaith i bleidleiswyr'
- Cyhoeddwyd

Byddai llywodraeth Lafur yn San Steffan yn cynnig gobaith i bleidleiswyr ar ôl toriadau "anodd" yn y blynyddoedd cyntaf mewn pŵer, yn ôl Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones.
Yn siarad yn lansiad ymgyrch etholiad y blaid yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin ddydd Llun, dywedodd Mr Jones y byddai toriadau yn llawer yn llai gyda Llafur mewn grym o'i gymharu â'r Ceidwadwyr.
Dywedodd: "Mae'n gywir dweud y bydd rhai toriadau yn y blynyddoedd cyntaf, tua 2%, ond mae'r Ceidwadwyr wedi dweud y byddan nhw yn gwneud toriadau o 20%, dyna'r gwahaniaeth mawr.
"Beth rydym ni yn ei gynnig - ydi, mae'n mynd i fod yn anodd am y flwyddyn neu ddwy nesaf - wedi hynny: gobaith. Mae'r Torïaid yn cynnig pum mlynedd o lymder diddiwedd, ac mae hynny'n golygu y bydd hi'n anodd iawn i ni wneud yn siŵr bod gennym ni'r systemau addysg ac iechyd ydyn ni eisiau yng Nghymru."
'Toriadau a gwrthdaro'
Yn gynharach, dywedodd y byddai ethol llywodraeth Lafur yn San Steffan a Chaerdydd yn dod â "thoriadau a gwrthdaro" y pum mlynedd diwethaf i ben.
Yn 2010 fe wnaeth clymblaid y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol addo dangos "parch" tuag at lywodraethau datganoledig lle'r oedd plaid wahanol mewn grym.
Ond dywedodd Mr Jones bod hynny yn "addewid ffug". Byddai Cymru yn well gyda Llafur yn rheoli llywodraethau'r DU a Chymru, meddai.
Dywedodd: "Am bum mlynedd mae Llafur Cymru wedi gorfod ceisio achub cam Cymru yn erbyn toriadau'r llywodraeth sy'n cael ei harwain gan y Ceidwadwyr yn San Steffan.
"Roedd yr addewid o barch gan David Cameron yn addewid ffug, ac o ganlyniad, mae Cymru wedi bod ar ei cholled.
"Mae'r etholiad hwn yn gyfle i gael dwy lywodraeth Lafur yn cydweithio er budd Cymru.
"Dyna'r dyfodol mae angen i ni frwydro amdano dros yr wythnosau nesaf - dyfodol o gydweithio, dim mwy o doriadau a dim mwy o wrthdaro."