Gyrrwr rasio o Gymru mewn damwain angheuol

  • Cyhoeddwyd
Nurburgring crashFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,
Car Jann Mardenborough ar ôl y ddamwain ar y Nürburgring

Mae un person wedi marw ac mae dyn o Gaerdydd yn yr ysbyty yn dilyn damwain ar drac rasio yn yr Almaen.

Roedd Jann Mardenborough, sy'n 23 ac o Gaerdydd, yn gyrru car Nissan GTR mewn ras ar y Nürburgring pan aeth y car oddi ar y ffordd.

Bu farw un person oedd yn gwylio'r ras ac mae "nifer" wedi eu hanafu yn ôl Nissan.

Cafodd Mardenborough ei gludo i'r ysbyty am brofion.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Mae Jann Mardenborough yn wreiddiol o Drelái

Mewn datganiad, dywedodd Nissan eu bod yn ymchwilio i'r digwyddiad.

Nid oedd Mardenborough, sy'n fab i'r cyn bêl-droediwr Steve Mardenborough, wedi rasio tan 2011, pan gafodd gytundeb proffesiynol ar ôl ennill cystadleuaeth gemau cyfrifiadurol.