Colled i'r Scarlets ond llwyddiant i'r Gweilch a'r Dreigiau
- Published
Gweilch 53-22 Zebre
Llwyddodd y Gweilch i symud yn ôl i mewn i safleoedd y gemau ail gyfle gyda buddugoliaeth gyfforddus dros Zebre.
Daeth ceisiau gan Dan Baker, Josh Matavesi, Scott Baldwin, Rhys Webb, Hanno Dirksen a chais gosb, a daeth 16 o bwyntiau o gicio Sam Davies.
Dion Berryman, Giulio Toniolatti ac Alberto Chillon sgoriodd i'r ymwelwyr.
Mae'r Gweilch nawr bedwar pwynt oddi wrth frig y tabl, a pum pwynt o flaen Leinster sy'n bumed.
Scarlets 15-26 Caeredin
Mae gobeithion y Scarlets o gyrraedd Cwpan Ewrop y tymor nesaf wedi cymryd ergyd ar ôl colled gartref i Gaeredin.
Cafodd y mewnwr Gareth Davies ei yrru o'r cae am daro'i ben yn erbyn Andries Strauss, yn fuan ar ôl dod i'r cae fel eilydd.
Phil Burleigh a David Denton sgoriodd y ceisiau i'r ymwelwyr, ac fe gafodd y tîm cartref eu cosbi gan gicio cywir Sam Hidalgo-Clyne.
Steven Shingler sgoriodd bwyntiau'r Scarlets gyda phum cic gosb.
Treviso 17-32 Dreigiau
Mae'r Dreigiau wedi symud uwchben y Gleision yn y Pro12 i'r nawfed safle, wedi buddugoliaeth yn erbyn Treviso ddydd Sadwrn.
Roedd hi'n fuddugoliaeth haeddiannol i'r Dreigiau, sy'n mynd yn ôl i Gasnewydd gyda'r pwyntiau diolch i ddwy gais gan Tom Prydie, wedi ceisiau gan Jonathan Evans a Hallam Amos.
Enrico Bacchin sgoriodd unig gais y tîm cartref, gafodd gais gosb hefyd yn yr ail hanner.
Ond Prydie oedd seren y gêm, gan gicio dau drosiad a thair cic gosb yn ogystal â'i geisiau i sicrhau'r fuddugoliaeth.