Oedi ar ôl i berson gael eu taro gan drên

  • Cyhoeddwyd

Roedd teithwyr trên yn wynebu oedi o hyd at ddwy awr ddydd Sadwrn ar ôl i berson gael eu taro gan drên yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd yr oedi yn effeithio ar deithwyr Trenau Arriva Cymru rhwng Manceinion ac Aberdaugleddau, Doc Penfro ac Abergwaun.

Cafodd y person eu taro gan drên ym Mhorth Tywyn.

Nid yw'n glir pryd fydd gwasanaethau arferol yn dechrau eto ac mae rhai gwasanaethau bws yn cael eu cynnal rhwng Llanelli a Chaerfyrddin.