Etholiad: UKIP yn gaddo mwy o arian i Gymru
- Cyhoeddwyd

Byddai UKIP yn newid y fformiwla sy'n cael ei ddefnyddio gan y Trysorlys i gyfrifo cyllideb Llywodraeth Cymru, petai'r blaid yn ennill pŵer.
Mae'r blaid yn gaddo "newid radical" i fformiwla Barnett i olygu bod cyllidebau yn cael eu cyfrifo yn ôl angen gwledydd sydd wedi eu datganoli, yn hytrach na phoblogaeth.
Dywedodd Nathan Gill ASE mai'r bwriad oedd cynyddu maint taliadau i Gymru.
Mae beirniaid fformiwla Barnett yn dweud bod Cymru yn methu allan drwy'r system.
£300m
Yn 2009, dywedodd comisiwn annibynnol mai'r diffyg blynyddol oedd £300m.
Ond mae rhai, gan gynnwys awdur yr adolygiad, wedi dweud bod y ffigwr bresennol yn is.
Fe wnaeth y Prif Weinidog David Cameron, arweinydd Llafur Ed Miliband ac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol addo cadw'r fformiwla cyn refferendwm annibyniaeth yr Alban.
Dywedodd arweinydd UKIP yng Nghymru, Mr Gill, y byddai maniffesto'r blaid yn cynnwys addewid i newid y fformiwla, sy'n ffafrio'r Alban yn eu barn nhw.
'Annhegwch mawr'
Dywedodd wrth raglen Sunday Politics: "Mae 'na annhegwch mawr ynghlwm a'r peth.
"I'r Alban, byddwn yn sicr yn gweithredu. Byddwn ni'n lleihau faint o arian y mae'r Albanwyr yn ei dderbyn drwy fformiwla Barnett.
"Ond yng Nghymru does dim bwriad o gael gwared ar fformiwla Barnett; yn hytrach ein bwriad yw cynyddu'r taliadau y mae Cymru'n ei dderbyn."
Mae dogfen gan y Trysorlys yn dangos bod gwariant cyhoeddus y pen ar ei uchaf yng Ngogledd Iwerddon (£10,961), yna'r Alban (£10,275), Cymru (£9,924) a Lloegr (£8,678).
Addewidion
Mae'r pecyn datganoli diweddaraf gafodd ei gyhoeddi gan Mr Cameron a Mr Clegg yn cynnwys lleiafswm cyllid i Lywodraeth Cymru drwy'r fformiwla.
Mae Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb wedi gwadu bod Cymru yn cael ei than-gyllido gan y fformiwla yn y gorffennol, ond mae llefarydd Llafur ar Gymru, Owen Smith wedi dweud y byddai llywodraeth Lafur yn ceisio lleihau'r bwlch ariannol.
Dywedodd Plaid Cymru y byddan nhw'n mynnu'r un setliad ariannol a'r Alban mewn senedd grog, tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi gaddo taliadau ychwanegol i Gymru i leihau'r bwlch.
Sunday Politics, BBC1, 11:00.