Brechlyn llid yr ymennydd ar gael yng Nghymru
- Published
Bydd brechlyn yn erbyn llid yr ymennydd [meningitis b] ar gael i fabanod yng Nghymru, yn dilyn cadarnhad gan Lywodraeth Cymru.
Daw hynny fel rhan o gytundeb Llywodraeth y DU, ar ran y llywodraethau sydd wedi eu datganoli, gyda chwmni Glaxo Smith Kline.
Yn 2014, dywedodd cynghorwyr y llywodraeth y dylai pob plentyn dros ddeufis oed gael y brechlyn, ond mae trafodaethau dros gostau wedi achosi oedi.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn bwriadu cyflwyno'r brechlyn "cyn gynted ac sy'n ymarferol".
O hyn ymlaen, bydd plant yn derbyn y brechlyn cyntaf pan yn ddeufis oes, ac yna dau ddos ychwanegol.
Mae llid yr ymennydd math b yn haint bacteriol sy'n effeithio'n enwedig ar blant o dan un oed.
Mae'n aml yn effeithio ar blant dan bump, a hefyd pobl rhwng 15 ac 19.
Mae dros 1,800 o achosion yn y DU bob blwyddyn.
Yn ôl Ysgrifennydd Iechyd y DU, Jeremy Hunt, bydd y brechlyn ar gael eleni, a dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai'r brechlyn yn cael ei roi yng Nghymru "cyn gynted ac sy'n ymarferol".