'Blwyddyn anodd' i reolwyr iechyd Betsi Cadwaladr

  • Cyhoeddwyd
Betsi Cadwaladr

Mae rheolwyr y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru yn cyfaddef bod "blwyddyn anodd" o'u blaenau wrth geisio gosod eu cyllideb o £1.3 biliwn.

Bydd angen i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wneud arbedion o £42.8 miliwn - neu 4.5% - dros y flwyddyn nesaf.

Mae'r bwrdd yn wynebu diffyg ariannol am yr ail flwyddyn yn olynol.

Ond mae disgwyl i gyfarfod cyllid arbennig glywed bod angen canolbwyntio ar wella gofal a diogelwch cleifion.

Toriadau

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi mwy o amser i fyrddau iechyd sicrhau nad ydyn nhw'n gorwario, ond mae disgwyl iddyn nhw wneud hynny erbyn mis Mawrth 2017.

Yr amcangyfrif yw y bydd y diffyg wedi cyrraedd £41.7m o fewn blwyddyn.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r bwrdd yn gobeithio arbed £4m drwy reoli presgriptiynau yn well

Mae cyfarwyddwr cyllid y bwrdd, Russ Favager, wedi cyfaddef y bydd cymeradwyo cyllideb gyda diffyg o £14.2m yn rhywbeth sydd heb ei weld o'r blaen.

Y bwrdd iechyd yw'r awdurdod GIG mwyaf yng Nghymru, gan gyflogi dros 16,000 o staff sy'n gwasanaethu 650,000 o bobl.

'Achosi her'

Ymhlith yr arbedion sydd wedi eu cynnig mae:

  • Arbed £4m drwy reoli meddyginiaethau yn well
  • Arbed £1m drwy fod yn fwy effeithlon a lleihau apwyntiadau sy'n cael eu canslo
  • Arbed £1.8m drwy gadw cleifion mewn ysbytai am gyfnodau byrrach
  • Arbed £1.5m drwy ddefnyddio staff asiantaeth yn fwy effeithlon.

Mae argymhelliad i'r bwrdd, sy'n cyfarfod yn Wrecsam, fuddsoddi mwy mewn gofal cymunedol i leihau salwch, a hefyd mwy mewn glanhau ac arlwyo i leihau heintiau a chyflymu gwellhad cleifion.

Dywedodd Mr Favager: "Does dim amheuaeth y bydd y gyllideb yma yn achosi her mewn rhannau o'r bwrdd iechyd ond mae'n hanfodol bod y bwrdd yn mynd i'r afael â'r her ariannol er mwyn y dyfodol."

Yn 2013 cafodd methiannau rheoli ac ariannol "sylweddol" eu hamlygu gan adroddiad.

Mae cadeirydd a phrif weithredwr newydd wedi eu penodi i'r bwrdd iechyd ac mae'r llywodraeth yn cynorthwyo gwelliannau.