Cytundeb ar ddyfodol ffair Ynys y Barri

  • Cyhoeddwyd
Ffair y Barri

Bydd y gwaith o ail-ddatblygu ffair adnabyddus yn ne Cymru yn mynd yn ei flaen ar ôl i ddatblygwyr ddod i gytundeb ar ddyfodol y safle.

Bydd Parc Hamdden Ynys y Barri yn cael ei drosglwyddo i'r perchennog newydd, Henry Danter ddydd Llun.

Mae Mr Danter, sydd a 50 mlynedd o brofiad yn y diwydiant, yn bwriadu defnyddio peiriannau mawr i glirio'r safle.

Ond mae'n bwriadu cynnal ffair fach erbyn dydd Gwener.

"Mae wedi cymryd cyfnod hir i gyrraedd y pwynt yma," meddai.

"Ond fe wnaethon ni addo i bobl y Barri y byddai'r lle yn barod erbyn y Pasg."

Mae Mr Danter yn bwriadu buddsoddi hyd at £20m yn y ffair, sydd wedi ei chael hi'n anodd aros ar agor ar ôl i barc gwyliau agos gau.