Ymgyrchu Etholiad 2015 yn dechrau
- Cyhoeddwyd

Mae ymgyrch yr etholiad cyffredinol yn dechrau o ddifri' ddydd Llun, wrth i'r Senedd gael ei diddymu yn ffurfiol.
Bydd y pleidiau nawr yn gwneud pob dim y gallen nhw i geisio ennill y 40 o seddi sydd yng Nghymru.
Bydd yr un pynciau a dadleuon sy'n cael eu trafod dros y DU yn cael eu hadlewyrchu yn yr ymgyrchu yng Nghymru, gyda'r economi, iechyd ac addysg yn sicr o fod yn bynciau llosg.
Mae Llafur angen cynyddu'r 26 o seddau sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd, tra bod y Ceidwadwyr yn gobeithio adeiladu ar yr wyth sydd ganddyn nhw.
Mae disgwyl i Blaid Cymru geisio manteisio ar dwf cenedlaetholdeb yn yr Alban yn sgil y refferendwm, a bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ceisio amddiffyn eu rôl yn y glymblaid bresennol.
Ac yna mae'r un dirgelwch mawr - faint o gefnogaeth all UKIP ei ddenu dros y pum wythnos nesaf?
Wrth i'r ymgyrch etholiadol gychwyn o ddifri' ddydd Llun, dros yr wythnosau nesaf bydd Gohebydd Seneddol BBC Cymru, Elliw Gwawr yn dadansoddi holl hynt a helynt yr ymgyrchu i Cymru Fyw.
Am fwy o wybodaeth, ewch i adran Etholiad 2015.