Tri heddwas yn pledio'n ddi-euog i ddwyn
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn/Athena Pictures
Mae Christopher Evans, Michael Stokes a Stephen Phillips yn gwadu lladrata
Mae dau heddwas a chyn-gydweithiwr wedi pledio'n ddieuog yn Llys y Goron Caerdydd i bum cyhuddiad o ddwyn.
Mae'r cwnstabl Philip Christopher Evans, y cwnstabl Michael Stokes a'r cyn-dditectif sarjant Stephen Phillips wedi eu cyhuddo o ddwyn arian gan bum unigolyn ym mis Ebrill a Gorffennaf 2011.
Cafodd yr achos ei ohirio nes y bydd gwrandawiad rheoli achos pellach yn cael ei gynnal ym mis Ebrill.
Fe gafodd y dynion eu rhyddhau ar fechnïaeth, ac mae disgwyl iddyn nhw wynebu achos llys ym mis Mehefin.
Mewn gwrandawiad cynharach, clywodd ynadon bod yr heddweision wedi dwyn cyfanswm o £30,000 o dŷ troseddwr honedig yn Abertawe yn Ebrill 2011.