Wrecsam yn cadanhau bod Kevin Wilkin wedi gadael y clwb
- Cyhoeddwyd

Mae clwb pêl-droed Wrecsam wedi cadarnhau bod eu rheolwr Kevin Wilkin wedi gadael y clwb.
Daw'r newyddion ddiwrnod ar ôl i'r clwb golli yn ffeinal Tlws FA Lloegr yn erbyn North Ferriby United ar giciau o'r smotyn yn Wembley.
Dywedodd Wilkin, 47 oed, nos Sul ei fod yn gobeithio cael y cyfle i arwain y tîm y tymor nesaf er y siom o golli yn y prynhawn.
Roedd Wilkin wedi bod yn rheolwr ers ychydig dros flwyddyn, wedi iddo ymuno ar 20 Mawrth y llynedd.
Dywedodd y clwb eu bod yn diolch i Wilkin am ei amser gyda'r clwb, yn enwedig cyrraedd rownd derfynol Tlws FA Lloegr a thrydedd rownd Cwpan FA Lloegr.
Dywedodd y clwb mewn datganiad: "Roedd hwn yn ddewis anodd iawn ac er ein llwyddiant yn y gwpan, ein blaenoriaeth yw cael dyrchafiad o'r Gyngres a dyw'r clwb heb wneud y cynnydd oedd yn cael ei ddisgwyl tuag at y nod yna. Felly, rydyn ni wedi gwneud y penderfyniad anodd bod angen newid."
Roedd disgwyl i'r tîm anelu am y gemau ail gyfle yn y Gyngres y tymor yma, ond maent yn y 15fed safle ar hyn o bryd, er bod ganddyn nhw gemau mewn llaw ar y timau o'u cwmpas.
Carl Darlington a Gary Mills o'r staff hyfforddi fydd yn rheolwyr dros dro nes y bydd penodiad parhaol. Bydd y ddau yn cael eu cynorthwyo gan eu cyd-hyfforddwr Michael Oakes.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2015