Cwmni'n creu 20 o swyddi

  • Cyhoeddwyd
Sgriniau teledu digidol

Mae'r cwmni cyfathrebu Nagra Media UK wedi creu 20 o swyddi yn eu canolfan yng Nghwmbrân, Torfaen.

Dywedodd llefarydd: "Bydd y swyddi, sydd angen sgiliau o safon uchel, yn ymwneud â theledu digidol, gan gynnwys rhwydweithiau lloeren, cebl, y we a ffoniau symudol."

Sefydlodd y cwmni o'r Swisdir adran ymchwil a datblygu ym Mharc Llantarnam yn 2006.

Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi golygu bod cyfanswm y gweithwyr yng Nghwmbrân wedi codi i 134.