Plaid Cymru'n galw am 'roi diwedd ar lymder'

  • Cyhoeddwyd
Leanne Wood
Disgrifiad o’r llun,
Mae Leanne Wood eisiau gweld Cymru yn cael ei hariannu i'r un lefel bob pen a'r Alban

Mae Plaid Cymru wedi lansio ei maniffesto ar gyfer yr etholiad cyffredinol gydag addewidion o fwy o arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru, 1,000 o weithwyr meddygol ychwanegol a chael gwared ar dreth ar 70,000 o fusnesau bach.

Mae'r blaid yn dweud y bydd yn trafod gyda'r SNP a'r Gwyrddion os oes senedd grog, gyda'r tair plaid wedi dweud na fyddan nhw'n cefnogi llywodraeth Geidwadol.

Mae Plaid eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn cael ei ariannu i'r un lefel bob pen a Llywodraeth Yr Alban - mae'n dweud bod hyn yn gyfystyr â £1.2 biliwn yn ychwanegol y flwyddyn.

Disgrifiad,

James Williams sy'n cyflwyno 'Maniffesto mewn Munud'

'Diwedd ar doriadau'

Yn siarad yn lansiad y maniffesto ym Mangor ddydd Mawrth, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, bod y blaid eisiau "rhoi diwedd ar doriadau".

"Dyw arweinwyr pedair plaid San Steffan yn cynnig dim mwy na thoriadau llym i'n gwasanaethau cyhoeddus, a dim ymrwymiad i sicrhau gwellhad economaidd i bawb," meddai.

Mae Plaid eisiau ail-gyflwyno'r raddfa dreth incwm o 50c ar gyfer enillion dros £150,000, a chynyddu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer pobl sy'n derbyn cyflogau mawrion. Yn ogystal, maen nhw'n cefnogi cyflwyno treth ar ddiodydd siwgraidd.

Mae'r maniffesto hefyd yn cyfeirio at nod y blaid i weld Cymru fel "gwlad annibynnol o fewn yr Undeb Ewropeaidd".