Gwyntoedd yn achosi problemau

  • Cyhoeddwyd

Mae gwyntoedd cryfion wedi bod yn achosi problemau mewn gwahanol rannau o Gymru.

Cafodd y frigâd dan eu galw i dŷ yn Aberpennar am 20: 11 pm gydag adroddiadau fod gwyntoedd wedi codi to'r adeilad.

Cafodd gwyntoedd o 56 milltir yr awr eu cofnodi yn Aberdaron, Pen Llŷn.

Fe wnaeth y Swyddfa Dywydd goheddi rhybudd melyn am law ar gyfer gogledd Cymru.

Bu Pont Britannia a Phont Cleddau ynghau am gyfnod i gerbydau uchel oherwydd y gwyntoedd.