Gwyntoedd cryfion yn effeithio ar rannau o Gymru
- Cyhoeddwyd

Mae gwyntoedd o hyd at 97mya wedi effeithio ar rannau o Gymru dros nos, wrth i yrwyr gael eu rhybuddio i ddisgwyl amodau "anodd" ddydd Mawrth.
Daw'r rhybudd wedi i gar adael y ffordd ger Caernarfon, Gwynedd, gan lanio ar draeth, ac wedi i Bont Hafren y M48 fod ar gau am gyfnod.
Cafodd criw'r bad achub ym Miwmares eu galw i adroddiadau bod pobl ar goll yn y môr, ond cafodd y bobl eu darganfod yn ddiogel ar y tir.
Cafodd y gwyntoedd cryfaf eu cofnodi yng Nghapel Curig yng Nghonwy.
Fe gafodd gwyntoedd o 97mya eu cofnofi yng ngorsaf dywydd y Swyddfa Dywydd yng Nghapel Curig am hanner nos, tra cafodd y to ei chwythu oddi ar dŷ yn Aberpennar.
Roedd gwyntoedd o 55-60mya ar hyd arfordir de Cymru , tra cafodd gwynt o 69mya ei gofnodi yn Y Rhyl.
Erbyn hyn mae Pont Hafren wedi ailagor, yn ogystal â Phont Cleddau ar yr A477 yn Sir Benfro wedi iddi fod ar gau am gyfnod ddydd Llun.
Mae cyfyngiadau cyflymder mewn grym ar Bont Britannia yn y gogledd.
Yn ôl y gwasanaethau brys nid oes dim problemau difrifol er gwaethaf y tywydd garw, ac mae disgwyl i'w gwynt ostegu yn ystod y dydd.