Dim tîm pêl-droed Prydain yn Rio
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi rhoi'r gorau i gynllun i sefydlu timau dynion a merched Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd yn 2016.
Roedd y Gymdeithas yn bwriadu sefydlu timau pêl-droed ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro yn 2016, ond methodd â derbyn cefnogaeth gan wledydd eraill Prydain.
Mi wnaeth y Gymdeithas ysgrifennu at gymdeithasau pêl-droed Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ddydd Llun er mwyn eu hysbysu o'u penderfyniad.
Roedd tîmau pêl-droed dynion a merched Prydain wedi cystadlu yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012, gyda'r ddau dîm yn gadael y gystadleuaeth yn rownd yr wyth olaf.
Roedd dirprwy-lywydd FIFA, Jim Boyce, wedi dweud yn flaenorol ei fod wedi derbyn "sicrwydd pendant" gan FIFA y byddai tîmau Prydain ddim ond yn cael eu caniatau pe bai pob un o wledydd Prydain yn cytuno i hynny.
Gemau Llundain 2012
Roedd Cymdeithas Bêl-droed yr Alban yn pryderu y byddai sefydlu tîm Prydain yn bygwth eu hannibyniaeth o fewn FIFA, corff llywodraethol pêl-droed y byd, a'u bod wedi cytuno i gydweithio ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain ar yr amod ei fod yn sefyllfa unigryw.
Dywedodd bod Cymdeithas Bêl-droed Lloegr "heb werthfawrogi cryfder y teimladau am y mater ymysg y gwledydd eraill."
Dywedodd llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Trefor Lloyd Hughes, ei fod yn "flin" gyda chynlluniau i sefydlu tîmau Prydain, pan glywodd am y cynlluniau.
Er i gymdeithasau pêl-droed Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon wrthod cymryd rhan yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012, fe gafodd pum Cymro eu dewis i dîm y dynion.
Roedd Neil Taylor, Aaron Ramsey, Joe Allen, Ryan Giggs a Craig Bellamy yn y garfan yn 2012.
Straeon perthnasol
- 3 Mawrth 2015