Cyn-gariad Ian Gough yn rhoi tystiolaeth yn ei erbyn

Ian Gough
Image caption Mae Gough wedi ennill 64 o gapiau rhyngwladol

Mae'r model Sophia Cahill wedi dweud wrth lys nad oedd hi'n credu y byddai'r heddlu yn cymryd honiad bod cyn-chwaraewr rygbi Cymru, Ian Gough, wedi ymosod arni o ddifrif.

Mae Gough, gafodd ei ganfod yn euog o ymosodiad ym mis Gorffennaf 2014, yn apelio yn erbyn ei euogfarn yn Llys y Goron Croydon.

Dywedodd Ms Cahill, wnaeth ddatganiad i'r heddlu bum niwrnod ar ôl y digwyddiad ar 5 Ionawr y llynedd, ei bod yn ofni ymddangos fel ei bod hi'n gor-ddweud.

Mae Gough wastad wedi gwadu ymosod ar ei gyn-gariad.

Straeon perthnasol