Dyfrnodau ar luniau maniffesto Plaid mewn camgymeriad
- Cyhoeddwyd

Mae Plaid Cymru'n dweud mai gwall dynol oedd wedi arwain i'w maniffesto gael ei gyhoeddi ar lein gyda dyfrnodau ar luniau.
Fe gafodd fersiwn ar-lein eu maniffesto ar gyfer yr etholiad cyffredinol ei gymryd oddi ar y we am gyfnod gan fod rhai lluniau'n dangos y geiriau "iStock by Getty Images" arnyn nhw.
Cafodd y ddogfen wedyn ei rhoi yn ôl ar lein heb y dyfrnodau.
Dywedodd llefarydd Plaid bod y camgymeriad wedi cael ei gywiro'n gyflym ar ôl i fersiwn hen gyda dyfrnodau gael ei roi ar lein am gyfnod.
Mae BBC Cymru wedi darganfod bod rhai o'r lluniau sy'n cael eu cynnwys yn y maniffesto hefyd yn cael eu defnyddio yn hysbysebu gwasanaethau iechyd yn Cinncinatti, cyngor ar afiechydon rhyw yn Seland Newydd a chlinig ar gyfer camddefnydd o sylweddau yn Utah.