Ian Gough yn ennill apêl

  • Cyhoeddwyd
Ian Gough
Disgrifiad o’r llun,
Mae Gough wedi ennill 64 o gapiau rhyngwladol

Mae cyn flaenwr rygbi Cymru, Ian Gough, wedi ennill apêl yn erbyn euogfarn o ymosod ar ei gyn-gariad.

Y llynedd fe gafwyd Gough yn euog o ymosod ar Sophia Cahill ym mis Ionawr. Cafodd orchymyn i dalu £2,130 mewn dirwyon a chostau.

Yn ystod yr apêl yn Llys y Goron Croydon, fe gyhuddwyd Ms Cahill o ddweud celwydd, a'i bod wedi newid ei stori am y digwyddiad sawl gwaith.

Fe gafwyd Mr Gough yn euog o'r ymosodiad honedig gan ei fod wedi clywed bod Ms Cahill wedi dyweddïo gyda'r seren bop Dane Bowers.

Diffyg tystiolaeth

Ar ôl i'r llys glywed tystiolaeth gan Ms Cahill a Mr Bowers, fe wnaeth bargyfreithiwr Ian Gough, John Rees, gais i'r achos gael ei ddileu oherwydd diffyg tystiolaeth.

Wedi iddo ystyried am beth amser, dywedodd y Barnwr Jonathan Davies ei fod yn caniatáu'r apêl gan ddweud: "Nid wyf yn credu bod y dystiolaeth yn yr achos hwn yn ddigon i'w gael {Mr Gough} yn euog.

"Rydym wedi clywed dadansoddiad manwl a maith o amgylchiadau'r digwyddiad yma."

Yn ystod yr achos, clywodd y barnwr hefyd fod Mr Bowers yn wynebu honiadau iddo yntau ymosod ar Ms Cahill - mae'r ddau bellach wedi gwahanu.