Cwotâu llaeth Ewrop yn dod i ben
- Cyhoeddwyd

Bydd cwotâu llaeth yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu diddymu fore Mercher, 1 Ebrill.
Cafodd y cwotâu eu cyflwyno yn 1984 er mwyn ceisio mynd i'r afael â'r broblem o or-gynhyrchu llaeth.
Fe fydd diddymu'r cwotâu - sy'n cyfyngu faint o laeth mae bob gwlad o fewn yr UE yn cael cynhyrchu - yn cael effaith wahanol ar y gwahanol wledydd o fewn yr UE.
Mae undebau amaethyddol Cymru wedi mynegi rhywfaint o bryder am y newid, gan y gallai diddymu'r cwotâu gael effaith negyddol ar bris y cynnyrch.
Eisoes mae Iwerddon wedi cyhoeddi cynlluniau i gynyddu'r cynnyrch o 50% erbyn 2020, ac mae'r Iseldiroedd a'r Almaen yn paratoi am gynnydd o 20%.
Wrth i gwotâu llaeth yr Undeb Ewropeaidd ddod i ben, Dafydd Gwynn sy'n darganfod mwy am effaith hyn ar ffermwyr Cymru.
Pryderon
I ffermwyr yng Nghymru, mae'r undebau'n mynnu mae prisiau isel sydd wedi cwtogi cynhyrchu llaeth yn hytrach na'r cwotâu, ac mae undebau'r NFU ac Undeb Amaethwyr Cymru eisoes wedi dweud eu bod yn bryderus.
Dywedodd Dr Hazel Wright, Swyddog Polisi Undeb Amaethwyr Cymru: "Mae'r cynnydd arfaethedig i'r llaeth sy'n cael ei gynhyrchu yn yr UE wedi arwain at yr undeb yn mynegi pryder am brisiau mewn marchnad sy'n ddirlawn yn barod.
"Mae'r undeb yn cydnabod rôl Arsyllfa'r Farchnad Laeth Ewropeaidd yn monitro'r farchnad, ac rydym yn gobeithio y bydd yn chwarae rhan effeithiol yn cynnig mesurau lliniarol os fydd angen.
"Ond mewn system heb gwota mae'n dod yn fwy anodd i gyflwyno mesurau brys mewn cyfnod pan mae'r sector angen cefnogaeth yn ddirfawr, ac mae hynny'n bryder ychwanegol."
'Cefnogaeth y cyhoedd'
Ymateb gwledydd eraill Ewrop oedd prif bryder Aled Jones, Cadeirydd Bwrdd Llaeth NFU Cymru, a dywedodd:
"Mae gan gynhyrchwyr a phroseswyr llaeth yma bryderon am sut y bydd gwledydd eraill yr UE yn ymateb i ddiwedd y cwotâu.
"Mae rhai yn cynyddu eu hallbwn heb fod yna farchnad i'r cynnyrch. Gyda phrisiau llaeth heb godi, fe allai hyn wthio'r prisiau ymhellach i lawr yn yr UE, ac atal adfywiad y marchnadoedd llaeth.
"Mae'n hanfodol bod unrhyw ehangu gan unrhyw aelod o'r UE yn cael ei gynllunio yn unol â chyfleoedd sydd ar gael yn y farchnad.
"Mae cefnogaeth y cyhoedd i gynnyrch llaeth Prydain yn galonogol, a byddwn yn annog pobl i barhau i brynu llaeth, caws, iogwrt a menyn o Gymru a Phrydain."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2015
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2014