Cymru dan-21 3-1 Bwlgaria dan-21
- Cyhoeddwyd
Fe gafodd tîm pêl-droed dan-21 Cymru ganlyniad gwych i efelychu'r prif dîm nos Fawrth drwy guro Bwlgaria dan-21 yn rowndiau rhagbrofol Pencampwriaeth UEFA dan-21 2017.
Cafodd y tîm dan hyfforddiant Geraint Williams ddechrau gwych wrth i Wes Burns groesi i Tom O'Sullivan benio'r Cymry ar y blaen wedi naw munud.
Yr un cyfuniad oedd yn gyfrifol am yr ail, ond gydag O'Sullivan yn cwrdd â chroesiad Burns gyda'i droed y tro hwn.
Daeth cic rydd i Gymru wedi 26 munud, ac wedi i'r amddiffynnwr fethu'r bêl, roedd Josh Yorweth wrth law i benio'r drydedd - roedd Cymru 3-0 ar y blaen wedi 26 munud.
Felly yr arhosodd hi tan yr egwyl, ond roedd Bwlgaria'n gryfach yn yr ail gyfnod.
Nikola Kolev sgoriodd i'r ymwelwyr wedi 52 munud, gan achosi pryder i'r Cymry. Ond roedd Christian Dibble yn y gôl ar ei orau, a gydag amddiffyn cadarn, Cymru dan-21 oedd yn fuddugol o 3-1.