Israel 0-1 Gwlad Belg
- Cyhoeddwyd

Marouane Fellaini o Manchester United gafodd unig gôl y gêm
Mae Gwlad Belg wedi codi i frig Grŵp B yn rowndiau rhagbrofol Euro 2016 wedi iddyn nhw ennill yn Israel nos Fawrth.
Ond roedd buddugoliaeth y Belgiaid yn waith llawer caletach nag oedd un Cymru nos Sadwrn, a daeth hwb i Gymru wrth i un o ser Gwlad Belg weld cerdyn coch.
Pan aeth Gwlad Belg ar y blaen wedi dim ond naw munud, roedd hi'n ymddangos fel pe byddai'n noson gyffyrddus, ond nid felly bu.
Gôl Marouane Fellaini a'u rhoddodd ar y blaen, ond doedd dim mwy o sgorio.
I ychwanegu at drafferthion y Belgiaid, fe welodd eu capten Vincent Kompany gerdyn coch wedi 63 munud - mae hynny'n golygu na fydd yr amddiffynwr dylanwadol ar gael pan fydd Gwlad Belg yn ymweld â Chymru ym mis Mehefin.