Llys: Chwistrellu petrol at blismon

  • Cyhoeddwyd
Llys y Goron Yr Wyddgrug
Disgrifiad o’r llun,
Roedd yr achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug fod dyn wedi chwistrellu petrol at blismon a chydio mewn taniwr sigaréts.

Bydd rhaid i Ian McColm o Lanrhaeadr ym Mochnant, Powys, wneud 12 mis o waith cymunedol.

Plediodd yn euog i gyhuddiadau o gythrwfl a meddu ar ganabis yn y digwyddiad yn Chwefror 2014.

Penderfynodd y Barnwr David Hale na fyddai'n ei garcharu a dywedodd ei fod yn gobeithio na fyddai'n gwneud unrhywbeth mwy difrifol eto.