Dwyn 'swm sylweddol' o fanc yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Llun Teledu Cylch Cyfyng o'r dyn o dan amheuaeth
Mae "swm sylweddol" wedi ei ddwyn o fanc yng Nghaerdydd amser cinio.
Roedd y lladrad ym Manc Lloyds yn Heol Ddwyreiniol y Bontfaen yn Nhreganna am 12:30.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn amau dyn oedd ar ffilm Teledu Cylch Cyfyng, rhwng 50 a 60 oed, rhwng 5 troedfedd 9 modfedd a 6 throedfedd o daldra â gwallt du.
Roedd yn gwisgo dillad du.
Dywedodd y Ditectif Sarjant Andy Miles: "Mae'r lluniau'n glir ac rwy'n siwr y bydd y cyhoedd yn ei adnabod.
"Alla i gadarnhau na chafodd neb ei anafu."