Trosglwyddo gwasanaethau i ymddiriedolaeth
- Cyhoeddwyd

Mae cyngor yn ne ddwyrain Cymru wedi trosglwyddo rheolaeth am eu gwasanaethau hamdden a diwylliant i ymddiriedolaeth.
Mae Cyngor Merthyr Tudful wedi trosglwyddo'r cyfrifoldeb dros ganolfannau hamdden, canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd a safleoedd diwylliannol i'r ymddiriedolaeth ddydd Mercher.
Mi wnaeth Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful, sy'n cael ei gefnogi gan fwrdd o 11 ymddiriedolwr, gymryd yr awennau wedi blwyddyn o ymgynghori gyda'r cyhoedd.
Dywedodd yr ymddiriedolaeth y byddai'r datblygiad yn "sicrhau dyfodol" gwasanaethau o'r fath.
Bydd yr ymddiriedolaeth yn cael ei harwain gan y prif weithredwr, Richard Marsh.
Dywedodd: "Bydd gweithredu fel ymddiriedolaeth yn golygu bod gennym ni lawer mwy o gyfleoedd i wneud ceisiadau am arian, gan sicrhau ffordd fwy hyblyg o weithio, fydd yn ein galluogi i ddarparu gwell gwasanaeth."