Pleidiau yn y ddadl fawr
- Cyhoeddwyd

Wedi misoedd o ddadlau rhwng y pleidiau a'r darlledwyr mae'r saith arweinydd yn mynd benben â'i gilydd nos Iau, yn yr unig ddadl deledu i gynnwys David Cameron.
Mae'r ddadl ddwy awr o hyd ar ITV yn gyfle i'r etholwyr weld arweinyddion Plaid Cymru, yr SNP, y Blaid Werdd ac UKIP yn ogystal â'r Ceidwadwyr, Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn wynebu ei gilydd am yr unig dro yn yr ymgyrch hon.
Efo cymaint ohonyn nhw'n rhannu llwyfan, mae pob arweinydd yn cael gwneud datganiad agoriadol byr cyn cael eu holi yn eu tro ar bedwar pwnc, gyda thrafodaeth ehangach i ddilyn a chwestiynau ychwanegol gan y gynulleidfa.
Natalie Bennet o'r Blaid Werdd sy'n agor y ddadl a'r gair olaf yn mynd i'r Prif Weinidog - fydd yn falch nad yw'n sefyll nesaf at Nigel Farage o UKIP, fyddai wedi gobeithio herio Mr Cameron yn uniongyrchol.
Oes ots pwy sy'n ennill?
Y cwestiwn fydd pawb yn ei ofyn wedi'r ddadl yw pwy sydd wedi ennill?
Ond oes ots? Ydi'r ddadl hon yn mynd i wneud unrhyw wahaniaeth i ganlyniad yr etholiad?
Yn 2010 fe welodd Nick Clegg hwb sylweddol yn ei gefnogaeth wedi'r dadleuon gyda David Cameron a Gordon Brown, ond wnaeth o ddim para hyd at ddiwrnod yr etholiad.
Ond mae'r etholiad yma yn wahanol, a gyda senedd grog yn debygol, mae'n ddigon posib y gall y ddadl hon berswadio digon o bobl sy'n eistedd ar y ffens i wneud gwahaniaeth.
Mae'r cwmnïau betio yn credu mai Nigel Farrage, arweinydd UKIP fydd yn dod drosodd orau heno, wedi ei lwyddiant dros Nick Clegg yn y dadleuon Ewropeaidd y llynedd.
Ond mae'r fformat, gyda saith ohonyn nhw yn cystadlu am amser, yn golygu y bydd hi'n anoddach i un arweinydd daro ergyd derfynol.
Er mai UKIP sydd a'r mwyaf i'w golli, cyn belled nad yw David Cameron, Ed Miliband neu Nick Clegg yn gwneud unrhyw gamgymeriadau mawr maen nhw'n annhebyg o weld unrhyw newid sylweddol yn eu cefnogaeth. Mae'r rhan helaeth o etholwyr eisoes yn gwybod beth maen nhw'n ei feddwl ohonynt.
Ond mae'n stori wahanol i'r pleidiau llai fel Plaid Cymru, yr SNP a'r Blaid Werdd. Mae hwn yn gyfle euraidd iddyn nhw rannu eu neges gyda chynulleidfa llawer ehangach na'r arfer, a chael eu gweld yn rhannu llwyfan gyda'r Prif Weinidog.
Fe fydd disgwyliadau yn isel iddyn nhw, gan nad yw'r cyhoedd yn gwybod llawer amdanynt, ac felly fe all perfformiad da ganddyn nhw arwain at hwb sylweddol yn eu cefnogaeth.
Boed hynny yn para tan 7 Mai ac yn gwneud gwahaniaeth mawr i nifer y seddi sydd ganddyn nhw, mae hynny yn gwestiwn arall.
Trefn y noson
Ar ôl tynnu'r enwau allan o het Natalie Bennett, Arweinydd y Blaid Werdd, sydd wedi'i dewis i fynd gyntaf; wedyn Nick Clegg, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol; Nigel Farage o UKIP; yr arweinydd Llafur Ed Miliband; Leanne Wood o Blaid Cymru; Nicola Sturgeon o'r SNP; ac yn olaf David Cameron ar ran y Ceidwadwyr.
Yn 2010 fe gafodd y tair dadl rhwng David Cameron, Gordon Brown a Nick Clegg le blaenllaw yn ymgyrch, gan ddenu bron i ddeng miliwn o wylwyr. Ond gan fod David Cameron wedi bod mor gyndyn i gymryd rhan y tro hwn, dyma fydd yr unig ddadl rhwng yr holl arweinyddion.
Er yn wahanol i bum mlynedd yn ôl fe fydd y ddadl hon yn rhoi cyfle i bleidleiswyr ar draws y DU i glywed gan y pleidiau llai hefyd, ac yn cynnig cyfle euraidd i Leanne Wood, Nicola Sturgeon a Natalie Bennett i wneud eu marc ar lwyfan cenedlaethol.
Bydd yr unig ddadl arall o'r ymgyrch yn cael ei gynnal ar y BBC ar 16 Ebrill, pan fydd Ed Miliband, Nigel Farrage, Leanne Wood, Nicola Sturgeon a Natalie Bennett yn herio ei gilydd.
Bydd Mr Cameron, Mr Miliband a Mr Clegg hefyd yn cael eu holi ar wahân mewn sesiwn arbennig o Question Time ar y BBC ar 30 Ebrill, wythnos cyn y bleidlais.