North yn gweld arbenigwr meddygol

  • Cyhoeddwyd
George NorthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
George North yn cael ei anafu yn y gêm yn erbyn Wasps

Ni fydd Northampton yn caniatáu i asgellwr Cymru, George North, chwarae nes iddo weld arbenigwr meddygol.

Gwnaed y penderfyniad ar ôl iddo gael ei daro'n anymwybodol yn y gêm rhwng Northampton a Wasps nos Wener.

Mae'r penderfyniad yn golygu na fydd yn wynebu Clermont Auvergne ddydd Sadwrn yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop.

Pedwerydd tro

Hwn yw'r pedwerydd tro i'r Cymro 22 oed gael anaf i'r pen o fewn pum mis.

"Roedd yn ymddangos ei fod yn gwella'r diwrnod canlynol," meddai Jim Mallinder, Cyfarwyddwr Rygbi Northampton.

"Ond fe wnawn i aros i glywed barn yr arbenigwr.

"Rydyn ni'n gorfod gwneud yn siŵr bod y bobl feddygol yn hapus ac yn fodlon ei fod yn holliach.

"Unwaith eu bod nhw'n hapus fe wnawn ni ei ddewis eto."