Damwain rhwng dau gar yn cau ffordd ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd

Fe ddigwyddodd y ddamwain ar yr A5 ar Ynys Môn rhwng Pont y Borth a Phont Britannia
Mae damwain rhwng dau gar wedi cau'r A5 ar Ynys Môn rhwng Pont y Borth a Phont Britannia.
Roedd rhaid i un ddynes gael ei thorri o'i char gan y gwasanaethau brys yn dilyn y ddamwain brynhawn Mercher.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 14:10 ac mae un ddynes wedi cael ei hedfan i'r ysbyty gan yr ambiwlans awyr.
Mae'r ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad ac mae'r heddlu'n gofyn i yrwyr i osgoi'r ardal. Fe ddywed Heddlu Gogledd Cymru bod hyn er mwyn clirio gweddillion ac olew o wyneb y ffordd.